Croeso

Pwrpas y wefan yma yw rhannu gwybodaeth am Gapel y Traeth, Cricieth, ac estyn gwahoddiad cynnes i chi i droi mewn atom i gyd-addoli gyda ni neu ymuno yn y gwahanol weithgareddau a drefnir yn enw’r Eglwys.

Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn Eglwys sy’n groesawgar, gweithgar a hapus ei naws. Mae’r adeilad yn un hardd ac wedi ei leoli ychydig lathenni o lan y môr yng Nghricieth.

  • Cynhelir oedfa Gymraeg am 10 y bore ac yna oedfa Saesneg am 11.15 bob bore Sul
  • Mae Clwb Sul y plant, sy’n llawn bwrlwm, yn cyfarfod am 10 bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol
  • Rydym yn credu’n gryf mewn cymdeithasu a threfnir amrywiol weithgareddau yn enw’r Eglwys gyda chroeso i unrhyw un ymuno â ni (clicio ar Y Cylchlythyr am fwy o wybodaeth am y math o weithgareddau)
  • Capel y Traeth yw’r unig gapel Cymraeg yng Nghricieth gydag aelodau Eglwys Jerusalem yn cyd-addoli gyda ni ers 2014
  • Yn flynyddol, ymdrechwn i godi arian sylweddol er lles eraill yn y gymuned a’r rhai sydd mewn angen drwy’r byd
  • Trefnir Eisteddfod y Plant yn y festri bob Gwanwyn pryd bydd plant ysgolion y cylch yn mwynhau cystadlu a chael cyfle i lwyfannu a magu hyder

digwyddiadau

28 Tachwedd { Drws Agored yn y Festri. } 10.00 - 11.30
01 Rhagfyr { Bore coffi yn y Festri. Arian at apel Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol. } 10.00 - 12.00
05 Rhagfyr { Cylch Trafod yn y Festri. ‘Dring i fyny yma’. Iwan Llewelyn Jones. } 10.30 - 11.30
12 Rhagfyr { Drws Agored yn y Festri } 10.00 - 11.30
12 Rhagfyr { Y Gymdeithas Ddiwylliadol. Dathlu’r Nadolig yng nghwmni aelodau’r cor ‘Cana mi gei’. } 7.15
17 Rhagfyr { Cyngerdd gan Cor Cynhaearn yng Nghapel y Traeth. } 7.30
19 Rhagfyr { Drws Agored yn y Festri. } 10.00 - 11.30

y clwb sul

  • Mae’r Clwb Sul yn cynnwys nifer dda o blant
  • Mae nifer o’r mamau yn aros efo’r plant ac yn cynorthwyo fel bo’r gofyn
  • Mae’r plant a’u rhieni yn cymryd cyfrifoldeb ac yn cyfrannu at nifer o wasanaethau megis Sul y Mamau, Diolchgarwch a’r Nadolig
  • Trefnir amrywiol weithgareddau ar gyfer y plant yn y Festri o Sul i Sul a hefyd yn y gymuned. Maent yn credu’n gryf mewn gweithgareddau sy’n codi arian i helpu plant llai ffodus na hwy eu hunain.

Gweithgareddau

Y Gymdeithas Ddiwylliadol

Cynhelir y cyfarfodydd ar y 3edd nos Fawrth o bob mis o Fedi tan Mawrth. Ceir amrywiol siaradwyr a gorffennir y tymor gyda Chinio Gŵyl Ddewi.

Drws Agored

Bydd y Capel yn agored bob dydd Mawrth o 10 – 11.30 y bore rhwng Y Grawys a Diolchgarwch pryd y byddwn yn gorffen gyda Swper y Cynhaeaf. Mae nifer dda’n troi mewn am baned, tôst a sgwrs wrth gwrs. Mae’r boreau yma yn apelio at aelodau, ffrindiau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cylch Trafod

Rhwng Diolchgarwch a’r Pasg ar fore Mawrth unwaith y mis byddwn yn cyfarfod am drafodaeth dros baned. Bydd testun y drafodaeth yn ymddangos o flaen llaw yn y Cylchlythyr misol – Adnod neu osodiad perthnasol. Cyfarfodydd anffurfiol yw’r rhain ac nid oes rheidrwydd ar neb i gyfrannu – mae’n gyfle i gael paned a gwrando.

Cyfarfod Chwiorydd

Mae'r Chwiorydd yn weithgar iawn yn yr Eglwys ac yn cyfarfod ar brynhawn Mawrth unwaith y mis. Maent yn gyfrifol am ymweld â’r henoed, glanhau’r Capel a threfnu boreau coffi dair gwaith y flwyddyn at achosion da. Mae cegin newydd hwylus, llawn adnoddau yn gymorth ar gyfer eu gwaith. Y Chwiorydd sydd yn gyfrifol am drefnu Eisteddfod y Plant bob Gwanwyn a cheir cefnogaeth ardderchog gan yr ysgolion lleol.Cynhelir yr Eisteddfod yn Festri’r Capel.

Hanes

Hanes Capel Seion, Cricieth ( Capel y Traeth )

1889

Gweinidog Capel Mawr, Parch John Owen, 4 blaenor a 120 o aelodau yn gadael Capel Mawr a chynnal gwasanaethau yn y Capel Saesneg, Marine Crescent

1890

Penderfynu adeiladu capel newydd. Cost y capel oedd £2040

download
1895

Agorwyd Capel Seion ym mis Ebrill, 1895. Siaradwyr gwadd yn y gwasanaethau agoriadol: Parch John Williams, Brynsiencyn, Parch. D. Lloyd Jones, Llandinam, Parch. David Williams, Penmorfa; Parch. J.T. Roberts, Caernarfon (Iolo Caer), Parch. William Thomas, Pwllheli

download
1921

Agorwyd y galeri i sicrhau lle i 650 o bobl yn y capel

download
1928

Gwnaed gwelliannau i’r capel a’r adeiladau fel golau, gwres ac ail addurno

download
1930

Chwefror: Adeiladwyd organ ‘pipe’ – gan ‘Messrs. Nicholas o Worcester am gôst o £830. Rhagfyr: Cynhaliwyd gwasanaethau i gysegru’r organ newydd. Derbyniwyd rhodd o £100 gan y Foneddiges Margaret Lloyd George

download
1945

Ebrill: Cynhaliwyd gwasanaethau Jiwbili i ddathlu pen-blwydd y Capel yn 50 mlwydd oed download

1995

Capel Seion/Capel Mawr = Capel y Traeth. Defnyddio adeilad Capel Seion

2011

Gwariant sylweddol ar yr Organ

2014

Capel y Traeth/Capel Jerusalem ( A ) Rhannu adeilad Capel y Traeth

Mwy o wybodaeth:

Gweinidogion

1889-1917 Parch. John Owen

1918-1922 Parch. W. Rawson Williams

1923-1924 Parch. J. Bennett Williams

1935-1947 Parch. J.W. Jones

1948-1975 Parch. Edwin Parry

1975-1980 Parch. Robert Roberts (Gwenidog Capel Mawr yn gofalu)

1980–1990 Parch Iorwerth Jones Owen

1991-1998 Parch. Elwyn Richards

1995-1998 Parch Elwyn Richards (Seion) a’r Parch R.E. Hughes (Capel Mawr) yn gofalu ar y cyd

1998–2003 Parch R.E. Hughes

2003 Eglwys Ddi Fugail

2019 Parch Iwan Llewelyn Jones, gweinidog Jerusalem (A) yn dod yn weinidog ar y ddwy eglwys – Capel y Traeth a Jerusalem

Swyddogion

Mrs Gwen Vaughan Hughes

Ysgrifenyddes

Ffôn: 01766 522 990

Mr Geraint Parry

Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau

Ffôn: 01766 523230

Mr Arwyn F. Jones

Trysorydd ac Ysgrifennydd y Cyfamodau

Ffôn: 01766 522 990

Mr Dafydd E. Hughes

Ysgrifennydd Ariannol

Ffôn: 01766 522 318

Mrs Gwyneth Jones

Ffôn: 01766 522 127

Mr Dewi R. Jones

Ffôn: 01766 522 956

Mr Ariel Evans

Ffôn: 01766 522 310

Mrs Helen Vaughan Williams

Ffôn: 01766 523 264

Cylchlythyr

Rhagfyr 2023

the download img

ôl-rifynnau

Cysylltu

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gapel y Traeth neu os ydych am ymuno â’r Eglwys neu unrhyw weithgaredd sydd ynglŷn â hi mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o’r swyddogion.

  • Capel y Traeth Cricieth
  • Gwynedd LL52 0HG