Croeso
Croeso
Pwrpas y wefan yma yw rhannu gwybodaeth am Gapel y Traeth, Cricieth, ac estyn gwahoddiad cynnes i chi i droi mewn atom i gyd-addoli gyda ni neu ymuno yn y gwahanol weithgareddau a drefnir yn enw’r Eglwys.
Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn Eglwys sy’n groesawgar, gweithgar a hapus ei naws. Mae’r adeilad yn un hardd ac wedi ei leoli ychydig lathenni o lan y môr yng Nghricieth.
- •Cynhelir oedfa Gymraeg am 10 y bore ac yna oedfa Saesneg am 11.15 bob bore Sul
- •Mae Clwb Sul y plant, sy’n llawn bwrlwm, yn cyfarfod am 10 bob bore Sul yn ystod tymor yr ysgol
- •Rydym yn credu’n gryf mewn cymdeithasu a threfnir amrywiol weithgareddau yn enw’r Eglwys gyda chroeso i unrhyw un ymuno â ni (clicio ar Y Cylchlythyr am fwy o wybodaeth am y math o weithgareddau)
- •Capel y Traeth yw’r unig gapel Cymraeg yng Nghricieth gydag aelodau Eglwys Jerusalem yn cyd-addoli gyda ni ers 2014
- •Yn flynyddol, ymdrechwn i godi arian sylweddol er lles eraill yn y gymuned a’r rhai sydd mewn angen drwy’r byd
- •Trefnir Eisteddfod y Plant yn y festri bob Gwanwyn pryd bydd plant ysgolion y cylch yn mwynhau cystadlu a chael cyfle i lwyfannu a magu hyder